SL(5)410 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn diwygio'r gyfundrefn rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi manylion system hysbysiadau cosb, lle gall Gweinidogion Cymru roi cosb i ddarparwyr ac unigolion cyfrifol gwasanaethau rheoledig yn hytrach na dwyn achos trosedd, os digwydd rhai rheoliadau yn cael eu torri. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r troseddau lle y gellir rhoi hysbysiad cosb.

Bydd y Rheoliadau hyn yn disodli'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017 presennol.

Gweithdrefn

Negyddol.

Craffu ar faterion technegol

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 8(1) yn nodi troseddau rhagnodedig o dan Reoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, ond mae'n nodi bod y troseddau rhagnodedig hyn “ at ddibenion rheoliad 12”. Mae rheoliad 12 yn ymwneud â'r cyfnod pan na chaniateir cychwyn achos. Dylai'r cyfeiriad cywir gyfeirio at adran 3 52(1) o'r Ddeddf.

2. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg

Gallai'r testun Cymraeg o'r drosedd “mynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwy” yn atodlenni 1 i 5 o'r Rheoliadau beri dryswch. Oherwydd y ffordd y mae wedi'i ddrafftio, nid yw'n glir a yw'r methiant i gydymffurfio yn ymwneud â'r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau ar waith, neu mewn perthynas â'r polisïau a'r gweithdrefnau eu hunain.

 

Rhinweddau: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

3 Mai 2019